Ann Elisabeth HughesWILLIAMSMawrth 12ed 2024
Yn dawel yng nghwmni ei theulu yn ei chartref Arddol, Pontllyfni, yn 82 mlwydd oed.
Priod annwyl y diweddar Huw Geraint, mam addfwyn Gwenan, Sioned ac Iwan, mam-yng-nghyfraith garedig Geraint, Gwyn a Julie a nain gariadus Gruffydd, Dafydd, Rhys, Osian, Glain, Evie a Math.
Angladd cyhoeddus yng Nghapel Brynaerau, Pontllyfni, LL54 5EP am 1.30 brynhawn Gwener, 22ain o Fawrth.
Blodau'r teulu'n unig ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof am Ann tuag at Ymchwil Canser, Ward Alaw a Medecins Sans Frontieres naill ai ar y plat offrwm yn y Capel neu drwy law yr ymgymerwr. Sieciau yn daladwy i H.J. Jones "Donations Account" os gwelwch yn dda.
Ymgymerwr Huw John Jones Glanrafon, Pontllyfni, Caernarfon, Gwynedd. LL54 5ER Ffon 01286 660365
Keep me informed of updates